Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un dydd yr oedd Ulysses,—milwr gwrol o dir Groeg,—a'i filwyr yn mynd adref mewn llong dros y môr wedi bod yn rhyfela am flynyddoedd mewn gwlad ddieithr. Pan oedd y llong yn ymyl ei wlad enedigol, ac Ulysses yn gweld ei dŷ gwyngalchog ar ochr y mynydd, cododd yn ystorm a gyrrodd y gwynt croes hwy yn ôl o olwg eu gwlad ymhell. Cyn bo hir daethant i dir, ac er na wyddent ym mha le yr oeddynt, yr oedd yn dda ganddynt gael rhywle sefydlog wedi eu taflu o donn i donn cyhyd. Pan yn sychu eu dillad ar y traeth, daeth dyn mawr atynt. Gofynnai'n sarrug,—

"Pwy ydych chwi, a beth yw eich neges yn fy ngwlad i?"

"Ulysses, mab Laertes, wyf fi, a Groegiaid yw fy nghanlynwyr. A'r gwynt a'n gyrrodd i'th wlad. Pwy wyt ti?"

"Aeolus, brenin y gwynt; a gwlad y gwynt yw hon."

Daeth brenin y gwynt yn gyfeillgar iawn âg Ulysses a'i wŷr, rhoddodd ymborth iddynt a choed i drwsio eu llongau. Yr oedd ar Ulysses hiraeth am fynd adref, a gofynnodd i Aeolus rwymo y gwynt rhag ofn i ystorm arall godi a'i rwystro at ei deulu.

"Gwnaf," meddai Aeolus, "a gadawaf i wynt teg chwythu ar dy hwyliau. Cymer y sach yma yn anrheg gennyf wrth ymadael,—ond gofala am beidio ei hagor hyd nes yr ai adref, neu cei ddioddef mawr os gwnei."

"Diolch iti, frenin y gwynt," meddai Ulysses, gan daflu y sach lawn dros ei ysgwydd ac esgyn i'w long. Nis gwyddai beth oedd ynddi, a buasai wedi ei hagor oni bai fod arno ofn i air Aeolus ddod i ben. A rhwymodd y sach wrth yr hwylbren; ac ai ei long