Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dan ledu ei hwyliau gwynion, yn gyflym tua'i wlad Ithaca. Yn hwyr un dydd yr oedd Ulysses yn flin gan y daith, a syrthiodd i gwsg trwm.

"Beth yw y rhodd gafodd y capten gan frenin y gwynt, tybed? " meddai'r morwyr. "Y mae yn rhaid fod y peth sydd yn y sach yn werthfawr iawn,— aur neu arian lawer. Dyma gyfle da i weld beth yw tra y mae y capten yn cysgu mor drwm."

Felly fu, gwyliai rhai Ulysses rhag iddo ddeffro tra y tynnai y lleill y sach i lawr. Wedi cael y sach ar y bwrdd. yr oedd yr holl ddwylaw o'i hamgylch yn gwylio'r un dorrai'r llinyn oedd am ei genau. Ond O! yn lle aur ac arian, daeth gwynt cryf dychrynllyd ohoni, a chwythodd y dwylaw i'r dwfr, cododd y môr yn donnau fel mynyddoedd, a neidiai y llong ac Ulysses ynddi fel pel o frig i frig. Yr oedd y gwynt wedi dianc. ac nis gallai Aeolis ei lywodraethu.

Er y credai plant bach Groeg mai Aeolus oedd arglwydd y gwynt. y mae ffrwyn y gwynt, Del, yn llaw un cryfach nag Aeolus, ac yn ôl ei ewyllys Ef yr a pob awel.

TAFARN Y LLWYNOGOD CROESION

YR oedd boneddwyr hen Gymru yn wŷr anrhydeddus ac urddasol, ac yr oedd popeth anonest neu fradwrus yn gas ganddynt. Ond yr oeddynt yn falch a ffroen uchel, digient a ffroment am y peth lleiaf, ac yr oedd hen ysbryd y rhyfeloedd yn gryf ynddynt. Maddeuent am eu taro, ond ni fedrent faddeu am eu sarhau.