Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Syr Robert Fychan o Nannau wedi penderfynu gyrru anrheg a fyddai wrth fodd cyfaill iddo ym Mawddwy. Yr oedd ganddo filiast fechan ddu, un o'r cenawon cwn prydferthaf welwyd ym Meirion erioed. Galwodd ei hen was ffyddlawn, Sion William, ato; ac ebe'r hen farwnig,—

"Sion, y mae arnaf eisieu i ti fynd ar neges bwysig iawn. Nid ymddiriedwn y gwaith i neb ond i ti, achos gwn mor ofalus wyt. Yr wyf wedi penderfynu anfon y filiast yn anrheg i'm hen gyfaill o Fawddwy. Rhaid i ti fynd â hi yno bore yfory. Gwna dy hun yn barod."

"O'r goreu, meistr, gwyddoch am fy ngofal a'm ffyddlondeb. Ni fethais yn fy neges erioed."

Bore drannoeth a ddaeth, ac yn bur blygeiniol gwelid yr hen Sion William yn cerdded i lawr oddi— wrth Nannau, ac yn dechreu dringo llechweddau Cader Idris. Yr oedd ganddo sach ar ei gefn, ac yn y sach honno yr oedd y filiast fechan werthfawr.

Yr oedd ei ffordd yn arwain at Fwlch Oerddrws, a chyn croesi'r mynyddoedd mawr yr oedd Sion William i basio tafam y Llwynogod Croesion. Yn awr, er mor ffyddlon oedd Sion, nis gallai basio tafarn y Llwynogod Croesion heb dorri ei syched. Rhoddodd y sach ar lawr wrth y drws, a diflannodd am ennyd i'r dafarn.

Pwy oedd yn digwydd bod yno ond Gruffydd Owen, y saer melinau, gŵr llawn o ddireidi. Yr oedd ganddo hen gath ddu, erchyll o deneu a hyll. Tynnodd y filiast werthfawr o'r sach, a rhoddodd yr hen gath hyll yn ei lle.

Toc daeth yr hen Sion William allan o'r dafarn,