Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cododd y sach yn ofalus, a rhoddodd hi ar ei gefn, ac yna trodd ei wyneb tua Bwlch Oerddrws.

Cyrhaeddodd ben ei daith, a chafodd fynd ar ei union i'r parlwr at wr Mawddwy. "Dyma anrheg y mae fy meistr, Syr Robert Fychan o Nannau, yn anfon i chwi, syr," meddai. Wrth ddweyd hynny, datododd linyn y sach, cymerodd afael yn ei gwaelod, a throdd hi a'i gwyneb i waered. A neidiodd yr hen gath ddu hyll allan, er dychryn i Sion William, ac er syndod digofus i'r gwr mawr o Fawddwy.

"Y lledfegyn drwg," ebe'r hen yswain, wedi gwylltio'n fawr, " a yw dy feistr a thithau wedi gwneyd â'ch gilydd i'm sarhau? Cei fynd yn dy ôl, a dy hen gath gyda thi; a dywed di wrth dy feistr mai gwell iddo fuasai bod heb ei eni na chware'r hen dric anymunol hwn."

Daliwyd yr hen gath. a phaciwyd Sion William yn ei ôl heb groesaw yn y byd. Erbyn cyrraedd tafarn y Llwynogod Croesion, yr oedd yn sychedig iawn. Trodd i mewn, a gadawodd y sach y tu allan fel o'r blaen. Daeth Gruffydd Owen yno ar ei union; gollyngodd y gath allan, a dododd y filiast fach yno fel o'r blaen. Daeth Sion William allan, ac ymaith âg ef tua Nannau.

Wedi cyrraedd Nannau, aeth at Syr Robert ar ei union. Dywedodd yr hanes, fel yr oedd y filiast wedi troi'n gath,—os nad yn rhywbeth gwaeth,—ar y ffordd; ac fel yr oedd y gwr mawr o Fawddwy wedi gollwng ei dafod arno, ac ar ei feistr.

"Dyma fi'n mynd i'w gollwng o'r sach; edrychwch