Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwi arni, meistr. Yr ydych chwi'n ysgolhaig, a medrwch weld beth ydyw."

Trodd wyneb y sach i lawr fel o'r blaen, a dyma'r filiast fach yn disgyn o honi, fel yr oeddynt wedi ei rhoddi i mewn yn y bore.

"Mistar bach," ebe Sion William, "y mae rhyw hud yn rhywle. Dyma beth na fedr neb ei esbonio byth. Miliast yn troi'n gath, a'r gath yn troi'n filiast yn ôl!"

Bu Syr Robert yn ddistaw am ennyd. Yna gofynnodd,—

"Sion, a droist ti i dafam y Llwynogod Croesion?"

"Wel, do, meistr."

"Wrth fynd ac wrth ddod yn ôl?"

"Do'n wir, mistar."

"Pwy oedd yno?"

"Neb ond Gruffydd Owen, y saer melinau."

Chwarddodd Syr Robert nes oedd ei ochrau'n ysgwyd, a dywedodd,—

"O Sion, Sion, mi fedraf fi esbonio dy helyntion di. Pasia di'r dafarn y tro nesaf, yn enwedig os bydd Gruffydd Owen yno."

EWYLLYS TAD CARIADLAWN

DAN gysgod un o fynyddoedd Gilboa yr oedd teulu dedwydd. Un mab oedd yno, a llawer o gaethweision. Yr oedd y tad yn or-hoff o'i unig fab; ac yr oedd y bachgen yn deilwng o'r cariad roddai ei dad iddo, oherwydd yr oedd ei hynawsedd a'i burdeb wrth fodd pob tad yn Israel.