Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I orffen ei addysg anfonwyd y mab i Jerusalem. Rhoddwyd ef i ofal un o athrawon goreu y ddinas; a dyna lle yr oedd, ddydd ar ôl dydd, yn efrydu'r gyfraith yng ngolwg y deml.

Ryw ddydd ymysg y dyddiau gwelai, dros gwrr y deml, un o gaethweision ei dad yn dod o gyfeiriad mynyddoedd Gilboa. Ofnodd fod rhyw newydd drwg, a meddyliai am ei dad wrth weld y caethwas yn prysuro ato. Yr oedd y gwas fel pe'n ceisio cuddio llawenydd, ond newydd drwg iawn i'r bachgen oedd ganddo. "Clafychodd dy dad," meddai, "a bu farw."

Wylodd y bachgen yn chwerw yn ei ing. Ac yntau wedi hiraethu cymaint am fynyddoedd Gilboa, ac am weld ei hen dad!

Safai'r caethwas gerllaw nes oedd y bachgen wedi tawelu ychydig. Yna dywedodd ran arall ei gennad. "Pan welodd dy dad Angau'n dod yn gyflym ato, gwnaeth ei ewyllys. Yn ei ewyllys gadawodd bob peth i mi ar un amod. A'r amod hwnnw ydyw fy mod i adael i ti gael un peth o bethau dy dad, y peth cyntaf o'i eiddo weli wedi ei farw neu'r peth a ddewisi dy hun, yn ôl yr ewyllys. Cwyd, brysia, sych dy ddagrau. Tyrd i gymeryd dy beth, y mae arnaf eisieu meddiannu f'etifeddiaeth. Bum yn gaethwas yn ddigon hir; mi ddanghosaf i ti'n awr y medraf fod yn feistr."

Wylodd y bachgen yn fwy chwerw byth. Nid colli ei etifeddiaeth oedd yn ei boeni, ond y meddwl fod yn rhaid ei fod wedi digio ei dad, cyn y buasai'n gwneyd y fath ewyllys. Yn ei ofid a'i drallod aeth at ei athraw, gan ddweyd wrth y caethwas am aros hyd yr hwyr. Gwrandawodd yr athraw ar y bachgen yn dweyd ei hanes. Yna eisteddodd yr athraw am hir yn fud, a'r bachgen yn wylo'n chwerw.