Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llawer ystori adroddir i blant y dwyrain fel hyn, i ddangos iddynt fod eu tadau'n ddoeth ac yn hoff ohonynt. Ni waeth i blentyn beth a ddysgo, os na ddysgir ef i barchu ac i garu ei dad a'i fam. Na ddyweder gair wrth blentyn byth yn erbyn ei dad neu ei fam. I'w feddwl ef os ydyw ei galon yn ei lle, ynddynt hwy mae'r doethineb pennaf a'r cariad cryfaf.

SEFYLL A DIANC

AETH pump o blant bach ryw ddiwmod am dro,
Y plant bach dedwyddaf o fewn yr holl fro;
Myfanwy a Gwenfron ac Elin fach swil,
A dewr gyda hwynt ydoedd Ioan a Wil.

Gofalai Myfanwy am Elin o hyd,
I Wenfron ei dol oedd holl ofal y byd;
Gofalai'r dewr Ioan am wagen fel dyn,
A Wil a ofalai am dano ei hun.

Wedi cerdded am ennyd hyd ffordd lydan braf,
Dan siarad, a hoffi mwyn awel yr haf;
Mewn ffos oedd ar ymyl y ffordd clywent stwr,
Ac wele ben llyffant yn codi o'r dŵr.

'Roedd llygad y llyfant yn ddisglair ac oer,
Fel llewyrch ar lestr neu lewyrch y lloer;
Rhwng blodau a glaswellt fe welai y plant,
Ac yntau yn dawel yn nyfroedd y nant.