Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Hen lyffant," medd Wil. "cyfri'n dannedd wnei di,
A chwilio am garreg i'th daro wnaf fi;"
Ar hyn dyma'r llyffant yn neidio o'r dŵr,
Gan feddwl cael sgwrs â'r plant bychain yn siwr.

Trodd Gwenfron a'r ddol eu cefnau yn chwim.
Am y wagen 'dyw Ioan yn malio'r un dim,
Rhed Myfanwy ac Elin yn rhyfedd eu llun,
A Wil a ofala am dano ei hun.

BEDD Y CENHADWR

AR oror Cameroon, yn Affrig bell, y mae palmwydden yn sefyll uwch ben bedd, fel pe i'w wylio. Bedd cenhadwr ydyw'r bedd hwnnw, bedd cenhadwr fu farw'n ieuanc, cyn cael dweyd gair wrth y pagan am Grist.

Ar lethr mynydd yn Switzerland y mae cartref Fritz Becher. Gwelai y bachgen yr eira tragwyddol o ddrws tŷ ei dad, eira sy'n wyn a disglair ar yr Alpau er bore'r byd. Adwaenai'r aberoedd a'r defaid ac adar y mynyddoedd. Ni fu neb yn fwy hoff o'i gartref na Fritz Becher.

Ond penderfynodd adael ei gartref, a hwylio dros y môr, o wlad yr eira i wlad y palmwydd, i ddweyd wrth y pagan am Iesu Grist. Nid oedd yn sicr a oedd ei enw ef ei hun ar lyfr y bywyd; ond credai yr ysgrifennid ei enw yno os medrai gael ereill at Grist. Yr oedd galar yn ei gartref pan gychwynnodd, a thad a mam yn gofyn pryd y doi o wlad y palmwydd i wlad yr eira'n ôl.