Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwelodd y paganiaid long yn angori ar eu traethell. a phedwar o ddynion gwynion yn glanio. Yr oedd tri yn ddynion cryfion canol oed; a phan ofynwyd iddynt beth a werthent, atebasant,—"Nid oes gennym ddim i'w werthu, yr ydym yn cynnyg efengyl heddwch heb arian ac heb werth." Ond yr oedd un o'r cenhadon yn ieuanc, a'r dwymyn wedi ymaflyd ynddo. Rhoddwyd y bachgen claf i orwedd dan gysgod y palmwydd, ar y traeth lle yr oedd wedi meddwl cyhoeddi efengyl yr Iesu. Am dri diwrnod bu'n dihoeni dan y dwymyn. Soniai am y mynyddoedd; gwelai ei gartref, a'r eira y tu hwnt iddo. Ac o'r diwedd gwelodd wlad a'i gogoniant yn fwy na'r goleuni ar yr eira; a gwelodd ynddi un â llyfr yn ei law. "Mi welaf fy nghartref," meddai, "a'm brawd hynaf. Y mae llyfr yn ei law, ac y mae fy enw i ynddo. Dacw'r hwn fu farw o'i fodd dros bechadur. Dacw enw Fritz Becher ar Lyfr y Bywyd."

Torrwyd bedd iddo ar y traeth. Y mae'r paganiaid eto'n holi am yr hwn fu farw o'i fodd dros bechadur, ac am Lyfr y Bywyd. Y mae palmwydden dal eto'n gwylio uwch ben bedd plentyn gwlad yr eira. A phwy na ddywed wrthi,—

Cadw di'n ddiogel,
Weddillion y sant i fwynhau melus hun,
Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,
Gofynnir adfeilion ei babell bob un!"