Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drugaredd y gwynt, ac ni wyddai y llywydd ym mha le yr oeddynt. A rhyw noson tarawodd y llong ar graig, ac aeth yn ddrylliau. Llyncodd y môr y nwyddau gwerthfawr, a'r bywydau hefyd. Y gwas yn unig adawyd; medrodd ef nofio, yn noeth ac yn glwyfedig, i ynys oedd gerllaw. Yr oedd yn brudd iawn, ac yn isel ei ysbryd, wedi colli popeth feddai yn y byd. Cerddodd ar hyd yr ynys, gan ofni na chai ddigon o ymborth, rhagor rhyddid a golud. Ryw ddiwmod cafodd ei hun yn dynesu at ddinas fawr. Yr oedd yn flin ac iselfryd, a dim ond ychydig garpiau am dano. Ond gwelai dyrfa yn rhedeg i'w gyfarfod, ac yn gwaeddi,—'Croesaw iti, ein brenin; teymasa amom byth!' Llusgasant gerbyd gorwych i borth y ddinas i'w gyfarfod, a rhoddasant ef i eistedd ynddo ar sidanau esmwyth. Aethant âg ef i blas ardderchog, rhoddasant wisg borffor frenhinol am dano, a dywedasant,—'O frenin, bydd fyw byth.'

"Yr oedd y gwas wedi synnu, ac yn methu deall hyn oll. Ymysg y dyrfa oedd yn plygu glin iddo, gwelai hen wr â doethineb ar ei wedd. Galwodd ef ato, a dywedodd,—'Yr wyf yn methu deall beth ydych yn wneyd. Nid wyf fi ond caethwas o wlad bell, wedi'm taflu yn unig ac yn dlawd ar eich goror. Paham yr ydych yn rhoi coron ar fy mhen? Paham yr ydych yn rhoi esgidiau brenhiniaeth am fy nhraed? Paham yr ydych chwi, a chwithau'n wŷr rhyddion, yn plygu elin i gaethwas na fedd ddim ar ei elw?

"'Frenin,' ebe yntau, 'ysbrydion ydym ni. Llawer blwyddyn yn ôl, cyn fy ngeni, gweddiodd ein tadau ar Dduw anfon un o feibion dynion yn frenin arnom ni. Atebodd yntau eu gweddi. Ond nid oes yr un brenin i deyrnasu am fwy na blwyddyn. Bob