Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blwyddyn daw un o feibion dynion yma o'r môr. Gydag iddo ddod, rhoddir ef ar yr orsedd, ac y mae holl olud a phleser yr ynys at ei alwad. Ond ar ddydd olaf y flwyddyn, tynnir ef i lawr oddiar yr orsedd, diosgir ei wisg frenhinol oddiam dano, a chludir ef i ynys fawr anial. Yno gadewir ef i ymdaro drosto ei hun.'

"'Beth ddaw o hono yno?"

"'Hyd yn hyn y mae ein brenhinoedd oll wedi ymddwyn yr un fath. Treuliasant eu blwyddyn mewn gloddest a phleser, heb feddwl am eu diwedd. A phan ddeuai dydd olaf y flwyddyn, anfonid pob un i ynys lle nad oedd dim wedi ei barotoi ar ei gyfer. Yno byddai farw'n druenus o newyn."

"'Beth yw dy enw?'"

"'Ysbryd Doethineb."'

"'Da. Pa gyngor roddi i mi?'"

"'Fel y deuaist i'r ynys hon, felly y bydd raid i ti fynd i'r ynys anghyfannedd. Noeth y deuaist yma: noeth yr ai oddi yma. Bydd ddoeth, a gwrando arnaf fi. Yr wyt i fod yn frenin am flwyddyn. Paid a threulio'r amser fel ereill i ymblesera'n ofer. Parotoa ar gyfer diwedd y flwyddyn. Anfon weithwyr i'r ddinas anghyfannedd. Gwna iddynt drin y tir yno, a hau gwenith a phlannu coed, a chloddio pydewau, a thrin y tir, a chodi tai. Yna cei fyw dy oes yn ddedwydd yno, heb farw o newyn. Berr yw blwyddyn, mawr yw'r gwaith, ymroa i'r gwaith.'

"Gwnaeth yntau felly. Daeth diweddy flwyddyn; ond nid oedd ef yn anobeithio fel ereill, nac yn ceisio boddi ei ofnau mewn oferedd. Tynnwyd ef oddiar yr orsedd rhoddwyd ef yn noeth mewn llong, ac anfonwyd ef i'r ynys anghyfannedd.