Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ond yr oedd ei gwedd wedi newid. Yr oedd yn llawn o ymborth a chyfoeth, ac yr oedd tyrfa yno yn disgwyl am y gwas doeth. Gwnawd ef yn frenin yno, a bu fyw yn hapus, am ei fod wedi gwrando ar Ysbryd Doethineb."

Dyna fel yr adroddodd Ben Ami yr hanes wrth rabbi Hillel, ei athraw. Yr oedd yr athraw'n fud am ennyd, a chlywid y tonnau bach yn curo ar y lan. Yna llefarodd rabbi HiIIel,—

"Fy mab, y mae gwers i ti yn yr hanesyn. Tydi dy hun yw'r gwas, Duw yw'r meistr trugarog roddodd ryddid a golud fwy na llond llong iti. Y byd hwn ydyw ynys yr ysbrydion. Y byd tragwyddol yw'r ynys anghyfannedd. Gwrando dithau hefyd ar Ysbryd Doethineb."

DIALEDD IFAN

Y DYDD o'r blaen, wrth grwydro drwy'r hen fro, gwelais amaethwr ynghanol ei blant yn ceisio troi'r defaid i'r ysgubor. Yr oedd y plant hynaf yn help mawr iddo; am y rhai bach, byddent ambell dro yn help i yrru'r defaid at yr ysgubor, ond yn llawer amlach safent yn union ar eu llwybr, gan eu gwylltio oddiwrth y drws. Rhedodd y lleiaf un i'w canol pan oeddynt wedi dechreu mynd i mewn, gan feddwl fod y gwaith wedi ei orffen, i gydio yng nghynffon y ddafad olaf; ond gwylltiodd y defaid, a diangasant i'r dde a'r aswy, ac aeth llafur oriau'n ofer. Daeth llinell i'm meddwl wrth weld y bychan,—

"Something between a hindrance and a help."