Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth ychwaneg na llinell enwog Wordsworth i fy meddwl. Cofiais am yr amaethwr helbulus hwnnw'n fachgen ieuanc, newydd adael yr ysgol. Mab Glan y Nant, tyddyn helaeth ar fin y mynydd, oedd. Nid oedd llawer o allu ynddo; ond yr oedd yn llawn o ryw uchelgais yn ymylu ar ffolineb. Nid oedd neb â'i leggins yn loewach ar ddiwrnod ffair, nid oedd neb a chymaint o rubanau melyn fflam ym mwng a chynffon ei geffyl gwedd, nid oedd neb fedrai siarad mor fawreddog am ei orchestion amaethyddol yng nghwmni merched ieuainc. Fel enghraifft o wawd miniog merch ffarm cafodd ateb i lythyr caru unwaith,—ond rhaid gadael hwnnw tan ddof at hanes carwriaeth Sian y Glyn.

Yr oedd rhyw awydd yn Ifan Glan y Nant am ddefnyddio powdwr. Tyllu cerrig a'u saethu oedd ei hoff waith y dydd; a saethu cwningod a phetris wedi nos. Yr wyf yn cofio i mi fynd allan gydag ef wedi nos unwaith. Pan oeddym ar ael y mynydd, daeth yn ystorm o wlaw; ac ni chawsom y noson honno ond ysgwrs, dan gysgod carreg fawr, wrth weld yr ystorm yn ysgubo yng ngoleu'r lleuad dros y dyffryn odditanodd. Ni roddaf yma ond y rhan o'n hysgwrs sydd yn perthyn i'r ystori hon.

"Mi fydda i'n meddwl, fachgen," ebe Ifan, gan feddwl am ŵr pur gas ganddo ef, mai ffŵl ofnadwy ydi cipar, ac mai ffŵl mwy ydi gwr bonheddig."

"Pam 'rwyt ti'n meddwl hynny? "

"Wel, pe baswn i'n ŵr bonheddig, mi faswn i'n rhoi dyn du'n gipar."

Bu distawrwydd am dipyn, ac ni wyddwn i beth oedd Ifan yn feddwl. Ond deallais cyn hir ei fod dan yr argraff fod dyn du'n gweld wedi nos. Ni fynnai