Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Anfonwyd y stampiau, a phrin y medrem gysgu'r nos gan ddisgwyl am y gwn. Dyfalem wrth ein gilydd tebyg i beth fyddai, faint oedd ei hyd a mil a mwy o bethau. " Ffor bynnag," ebe Ifan ar ddiwedd llawer ysgwrs, " mi fydd gennon ni wningod beth ofnadwy. Yn diar i mi, mae celfyddyd yn beth rhyfedd hefyd, deydwch chi fynnoch chi. Dydi cipar na gwr bynheddig yn ddim byd wrthi hi."

Ar fore hir-ddisgwyliedig eis i'r pentref. Llamodd fy nghalon o lawenydd pan ddywedodd y postfeistr fod yno barsel bychan i mi. Gofynnais iddo fel ffafr a beidiai a dweyd wrth neb fy mod wedi ei gael. Ond yr oedd yn fychan, dim ond rhyw bedair modfedd o hyd, peth bychan iawn i ateb disgwyliadau cynyddol tri diwrnod. Eis ag ef yn syth i Ifan heb ei ddatod; a chlywodd y wlad sŵn y tyllu cerrig yn distewi.

"Yn diar i mi," ebe Ifan, pan welodd y pecyn, " yn tyde'n nhw'n medru rhoi peth dinistriol mewn sym bach."

Agorwyd y pecyn yn ochelgar, rhag ofn i'r gwn ladd un ohonom, neu falurio'r garreg oedd o dan ein traed. Ond erbyn agor pob peth, nid oedd y gwn ond y peth eiddilaf welodd neb erioed,—cafn bychan â lle i roddi pelen fechan fach ynddo fo, a spring ddur fechan i hitio'r belen drwyddo. Bocs papur, gyda thipyn o belenni tebyg i lygad gwibedyn, oedd yr "ammunition." Gwelsom ar unwaith y gallasai un ohonom fentro gadael i'r llall saethu i'w lygad o bellder dwylath, a bod yn ddianaf.

"Yr anwyl anwyl," ebe Ifan, yn nyfnder ei siomiant, "ym medrwn i brynu un gwell na hwn am ddime yn siop Sali'r Minceg yn y pentre."