Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eis i adre'n bendrist iawn. Teimlwn mai myfi oedd wedi ein dwyn ein dau i'r siomedigaeth hon. Ni wyddwn a oedd yn bosib rhoi cyfraith ar John Bottom, gwyddwn fy mod wedi dwyn celfyddyd i warth yng ngolwg Ifan Glan y Nant.

Nos drannoeth daeth Ifan i'n tŷ ni i holi am danaf. Wedi cael lle ein hunain, edrychodd arnaf yn ddoeth, a dywedodd mewn tôn ddieithr,—

"Mi fase'n well i'r hen Fottom beidio."

Aethom allan gyda'n gilydd at lidiart y ffordd, a phan aethom yno, tynnodd Ifan rywbeth yn ofalus o'r gwrych. Bricsen oedd.

"Dyma i ti, cer â hon i Dafydd Sion y Post, a gofyn iddo fo i lapio hi a'r gwn mewn papur llwyd glân. Wedyn tor ddrecsiwm yr hen Fottom arni, a gyrr hi iddo fo heb dalu'r post; heb dalu'r post, cofia."

Dechreuodd Ifan ddarlunio'r gwyneb wnâi’r "hen Fottom," chwedl yntau, wedi datod y parsel, ond methodd ddweyd llawer gan chwerthin

Eis â'r fricsen i'r Post wrth fynd i'r ysgol bore drannoeth. Lapiwyd hi'n ofalus, ond pan ddywedais fy mod am ei gyrru drwy'r post heb dalu ar ei hol, rhoddodd Dafydd Sion ei ddwy law ar y cownter, a gwenodd arnaf mewn distawrwydd. Un hynod iawn oedd Dafydd Sion. Efe a roddasai wybodaeth nacaol bwysig am gyrchfannau'r Gŵr Drwg i fachgen ddaethai yno i ofyn am asafœtida wrth ei enw gwerinol.[1]

"Machgen i," meddai, "yr ydw i'n dy nabod di ac Ifan Glan y Nant, ac mi wn am eich triciau chwi."

Gwridais at fy nghlustiau, gan gofio am dric y llythyr caru. Rhoddais y fricsen dan fy nghesail, a chychwynnais allan yn drist, gan feddwl na chai Ifan

  1. cachu'r diafol gwêl. Asafoetida ar Wicipedia