Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddial wedi'r cwbl. Yr oedd Dafydd Sion bron ymdorri gan ddigllonedd neu chwerthin. Ebai ef, pan oeddwn yn y drws,—

"Rydw i yn ych nabod chi; ond hwrach nad ydi pobol y rêl we yn y dre ddim."

Yr oedd Dafydd Sion yn ddiacon yn y Capel Draw.

Aeth Ifan â'r fricsen i'r dref yn ffyddlon y diwrnod ffair nesaf; a dyma'r sgwrs, ebai ef, fu rhyngddo â dyn y ffordd haearn,—

"Gai yrru'r parsel yma i Firmingham?"

"Cewch siŵr. Talu yma?"

"Na, talu ono."

"Bydd raid i'r Mr. Bottom yma seinio ei fod wedi cael y parsel yn ddiogel a thalu."

"O mi 'neiff' Mr. Bottom dalu, ond i chi ofalu na thorrwch chi mo'r fri—— gwydr."

Y diwrnod wedyn daeth Ifan ataf yn llawen iawn, a dywedodd,—

"Dal di sylw ar y papur hwnnw lle'r oedd hanes y gwn. Mi fydd hanes torri'r hen Fottom o'r seiat yn y rhifyn nesa am ddeyd geiriau mawr."

AR YSTOL Y GOSB

CHWI welwch Gwen yn eistedd ar ystôl y gosb, dan ddirmyg mawr. Y mae y plant i gyd yn ei gweld yn y fan acw, a chap y cywilydd am ei phen. Y mae ei chalon fach yn llawn; y mae'n edrych i lawr, ac yn rhoi aml ochenaid. Y mae'n cofio mor anwyl yr oedd ei mam yn ei chusanu yn y