Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bore, a daeth hiraeth mawr arni am gael bod ar lin ei mam i wrando ar ryw ystori.

Beth oedd Gwen wedi wneyd? Wel, a welwch chwi'r llechen sydd ar lawr yn ei hymyl? Yr oedd yr athraw wedi peri iddynt liosogi 213 â 2. Yr oedd yn waith hawdd, ac yr oedd pob un wedi gwneyd ond Gwen. Y mae ei gwaith ar lawr wrth ei hochr, a hithau'n gorfod eistedd ar ystôl y gosb, a chap y gwarth am ei phen.

Ond waeth heb son, ni fedrai Gwen ddim dysgu, er ei bod wedi treio ei goreu. Ond yr oedd yn un o'r genethod bach mwynaf a charedicaf yn yr holl wlad. Medrai ddweyd y gwir, medrai wneyd pob peth ddywedai ei mam wrthi, a medrai gadw ei brodyr bach yn ddiddig,—ac onid ydyw hyn yn llawer mwy na medru gwneyd sym?

Beth yw ystyr y gair dunce sydd ar y cap? Enw dyn ydyw, enw Duns Scotus. Ysgolhaig mawr oedd ef, ond daeth pobl eiddilach ar ei ôl, a thybient nad oedd Duns yn ddim o'i gymharu â hwy, a galwasant bawb byr ei ddeall yn dunce.

Gwn lle mae Gwen heddyw. Y mae ei chalon hael, garedig, yn ei gwneyd yn anwyl i bawb, ac y mae wedi medru gwneyd llawer gwaith mil anhaws na "multiply 213 by 2."

Peth anodd ydyw dysgu; ond y mae plant bach ufudd yn siwr o ddysgu'n iawn, ond iddynt dreio, a chael digon o amser.