Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CWN ADWAENWN I.

I UN o blant y mynyddoedd fel myfi, yr oedd cwn yn gyfeillion mebyd. Gyda'm ei wrth fy sawdl, bum gannoedd o weithiau'n gwylio emrynt y wawr yn agor neu yn rhyfeddu wrth weld y niwl yn ymestyn fel llaw cawr i fyny ar hyd wyneb y creigiau. Bum lawer gwaith yn meddwl yn ddifrifol rhyngof â mi fy hun ym mha beth mewn gwirionedd y mae y dyn sala yn well na rhai o'r cwn adwaenwn i. Mi adroddaf hanesyn neu ddau i ddangos fod gan gi ryw lun o gof a deall a serch a rheswm a chydwybod ac ewyllys ac iaith; a gwyn fyd na fuasai gan bob dyn gymaint ar ei elw. Yn wir, gwelais lawer ci a chymaint yn ei ben fel y buasai arnaf gymaint o ofn ei saethu a saethu dyn; ac mae'n biti garw os caiff rhai dynion adwaenwn i ddyfod o'r graean tra na chaiff cwn ddim. Gwelais ddau neu dri o bersoniaid mewn gwisgoedd gwynion uwchben arglwydd gwlad ac yn dweyd y codai mewn gogoniant; a gwelais ddwy neu dair o frain mewn cotiau duon ar ochr y mynydd uwchben corff ci oedd wedi gwneyd llawer mwy o droion cymwynasgar a llawer iawn mwy o ddaioni, troent eu pigau i'r cyfeiriad yma ac i'r cyfeiriad acw, a dywedent wrth eu gilydd y medrent fentro dechreu arno, na chodai o ddim yn siŵr.

Yr wyf yn cofio un ci rhagrithiol iawn. Elai i rai o'r ffermdai tuag amser dyledswydd deuluaidd, gyda golwg ddefosiynol iawn arno. Wrth weld crefyddolder ei wedd, gadewid iddo aros wrth y tân gyda'r cwn ereill; ond mor fuan ag y byddai'r bobl ar eu gliniau, cerddai Sam yn ysgafn tua'r llaethdy, a thra