Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diolchid am drugareddau beunyddiol byddai Sam yn hel wyneb y dysglau llefrith ac yn mwynhau'r hufen melyn.

I'r capel yr oedd tyniad Pero Sion Ffowc, a gellid meddwl mai efe oedd y ci mwyaf crefyddol yn Llan y Mynydd. Unwaith yr oedd mewn cyfarfod gweddi yn yr hen gapel, ac yr oedd Gruffydd yr Hendre, y gweddïwr mwyaf hyawdl fu yn Llan y Mynydd, ar ei liniau wrth y fainc yn gweddïo. Pan oedd Gruffydd ar ganol ei weddi mewn ffrwd o hyawdledd, teimlodd drwyn oer rhywbeth ar ei ên. Agorodd ei lygaid, gwelai Bero Sion Ffowc yn eistedd am y fainc ag ef mor ddifrifol a sant. Tarawodd ef nes oedd yn rholio dan y meinciau, ac yna aeth ymlaen gyda'i weddi fel pe na buasai dim wedi digwydd.

Cariad brawdol nodweddai'r hen Fflei Coedladur. Lladratawyd ef unwaith, ac awd ag ef dros ugain milltir o fynyddoedd i Lanfyllin i'w werthu. Yno medrodd ddianc, ond cafodd gosfa gan fastiff wrth ddod adre. Yr oedd brawd iddo yn y Plas, daeth adre at hwnnw, ac aeth y ddau dros y mynydd yn ôl i Lanfyllin a gwnaethant groen y mastiff yn gareiau.

Yr wyf yn cofio un hanes difrifol am gi, nid ci defaid o waed cyfa, yr oedd ei daid o ochr ei fam yn waedgi. Yr oedd rhyw gi yn lladd wyn, ac nid oedd neb, er gwylio a gwylio, wedi cael allan pa gi oedd y llofrudd. Ond o'r diwedd daeth bugail Nant Blodau'r Gaeaf a dywedodd ei fod yn sicr iddo weld Nero rhwng dau a thri o'r gloch y bore yn lladd oen wrth oleu'r lleuad ar waelod y cwm. Dywedasant fod hynny yn amhosibl, gan fod Nero wedi ei gau yn y tŷ yn ddiogel, ac awgrymasant yn bur eglur fod y bugail yn dweyd peth nad oedd wir er achub ei gi ei hun. Cyn hir