Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tystiai bugail arall iddo ei weld wrth y gwaith anfad. Ond y noson honno hefyd yr oedd Nero wedi ei gloi yn y gegin. O'r diwedd dywedodd merch y tŷ y buasai hi yn cysgu ar yr ysgrin i weld a oedd Nero yn medru mynd allan, ac aeth y dynion i'r caeau i wylio. Gorweddodd Enid ar yr ysgrin a chymerodd arni gysgu tra'r ci yn gorwedd o flaen y tân. Ymhen hir a hwyr dechreuodd y ci anesmwytho, cerddodd at yr ysgrin, daliodd ei drwyn wrth wyneb yr eneth yn hir, ac o'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fyny ei bod yn cysgu. Yna cerddodd at y ffenestr, cododd y glicied, agorodd hi, ac wedi edrych yng nghyfeiriad yr ysgrin unwaith yn rhagor neidiodd allan. Ymhen yr awr dringodd i'r ffenestr yn ei ôl a chauodd hi yn ofalus â'i bawen. Yna aeth at Enid, a chlywai yr eneth ei anadl boeth ar ei gwyneb, yr oedd ymron a gwaeddi gan ddychryn, ond gwyddai y lladdai y ci hi os gwnâi. Penderfynodd y ci ei bod yn cysgu, a gorweddodd wrth y tân, ond taflodd ci olwg ati'n aml, fel pe'n ddrwgdybus o honni. Y bore ddaeth, a chydag ef y dynion i'r gegin. Ni chymerai y ci un sylw ohonynt, ond edrychai’n ddyfal ar Enid o hyd. Mor fuan ag y gwelodd y dynion, collodd yr eneth ddewr bob llywodraeth arni ei hun, a dechreuodd waeddi mewn ofn. Gwelodd y ci ei dychryn, deallodd ei bod wedi ei weld, ac aeth yn gynddeiriog ar unwaith, ymdrechodd neidio ati yn ei gynddaredd ac oni bai iddo gael ei saethu yn union buasai Enid wedi talu ei bywyd am ei hyfdra yn gwylio a bradychu y ci. Nid oedd neb erioed wedi gweld tuedd greulawn ynddo o'r blaen, yr oedd pawb yn hoff o honno, a buasai yntau yn ymladd dau fywyd dros Enid. Nis anghofiodd y rhai a'i gwelsant yr olygfa byth, yr oedd y ci mor