Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

debyg i ddyn a'i bechod yn troi yn uffern iddo; ac ni chafodd Enid, er dewred oedd hi, awr o iechyd ar ôl y noson honno.

Unwaith bum yn hoff iawn o gŵn, ac yr oeddwn wedi tynnu cydnabyddiaeth â chrach foneddwr oedd yn awdurdod ar achau ciaidd. Dois adre'r tro cyntaf wedi bod "i lawr," sef yng Nghaer, yn dipyn o lanc. Gofynnais i hen fachgen o filwr, Sais wedi dysgu Cymraeg,—

"John Brown, pwy ydi tad y ci braf yna?"

"Wyt ti'n gwybod hen buwch moel Sian Sion?" gofynnai, trwy ei drwyn.

"Ydw." "Wel, nid honno."

Ni soniais i wrth neb am achau cwn wedyn.

BETH SYDD YNDDO?

ROEDD Hedd bach chwilfrydig yn crwydro ryw dro
Trwy eang stafelloedd ty modryb;
Aflonydd iawn oedd, un yn chware o hyd,
A'i fysedd bach prysur, yn fywyd i gyd,
Nid oedd un prysurach o fewn yr holl fyd
Na'r Hedd bach chwilfrydig a grwydrai ryw dro
Trwy eang stafelloedd ty modryb.

'Roedd yno ystafell ymhen pella'r ty,
A llawer peth rhyfedd yn honno;
Ymysg pethau ereill 'roedd blwch wedi ei gau,
Ac wedi mynd yno, mhen munud neu ddau,
'Roedd Hedd bach yn ceisio ei agor yn glau,
Draw yn 'r ystafell ymhen pella'r ty,
A llawer peth rhyfedd yn honno.