"Mae'r blwch yn bur anodd ei agor," medd Hedd, |
SAM
MILGI oedd Sam, ci main buan, llwyd ei flew. Yr oedd yn gyfrwys ac yn garedig, a bu yn gyfaill cywir i ni am lawer blwyddyn. Ci amaethwr oedd. At hela y cedwir milgwn, ond dywedai'r amaethwr hwnnw na fyddai Sam byth yn dal na chwningen nac ysgyfarnog; ni wnai ond hannos y defaid yn unig. Rhedai oddiwrth y tŷ i fyny'r mynydd mawr oedd gyferbyn, a rhyfedd mor fuan oedd. Prin y diangai'r defaid rhagddo, gwyddent na frathai Sam hwynt. Un cyfrwys iawn oedd, a rhaid cyfaddef y lladratai ambell i dro. Cydiai mewn dysglaid o fwyd gerfydd ei hymyl, ac ai â hi ymhell i ffwrdd, i'w mwynhau