Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn tawelwch. Ond ni ddeuai â'r ddysgl wag byth yn ôl. Yr oedd yn gwybod ar wyneb ei feistr beth oedd yn ei feddwl,—yswatiai y tu ôl iddo os byddai gwg ar ei wyneb, llamai mewn llawenydd o'i gwmpas os byddai'n gwenu. Yr oedd gan Sam gydwybod hefyd, a byddai golwg euog arno yng ngwydd ei feistr pan fyddai wedi bod ar ei ddrwg.

Er fod gan Sam gydwybod, prin y gellir dweyd ei fod yn gi duwiol Yr oedd amaethdy mawr yr ochr arall i'r plwy, ac yno yr oedd blaenor y seiat yn byw. Gwyddai Sam pryd y byddai'r ddyledswydd deuluaidd yn y bore, ac mor fuan ag y byddai'r teulu ar eu gliniau, byddai Sam yn y bwtri yn hel yr hufen. Gwyddai oddiwrth oslef y gweddïwr pryd yr oedd y weddi'n tynnu at y terfyn; a phan godai'r teulu oddiar eu gliniau, ni welent ond cynffon hir Sam yn diflannu trwy'r drws.

Ond er amled ei driciau, yr oedd Sam yn garedig ac yn barod i amddiffyn y gwan. Gorweddai'n gylch ar yr aelwyd, a llawer gwaith y rhoddwyd y babi i gysgu'n dawel ar ei gefn. Ni symudai Sam oddiyno tra byddai'r bychan ar ei gefn, er ei demtio âg asgwrn wrth ei fodd.

Ryw dro yr oedd y babi'n cysgu yn yr awyr agored, a Sam yn gorwedd yn dawel dan ei lwyth, gan agor ei lygaid ambell waith i edrych sut yr oedd y byd yn mynd ymlaen. Yr oedd y tad a'r fam oddicartref, a chlywyd gwaedd yn dod oddiwrth y plant ereill. Mastiff mawr oedd yno, wedi dianc o'i gartref, a darn o'i gadwen yn crogi am ei wddf. Gwyddai'r plant am dano, a diangasant am eu bywyd i'r tŷ, gan gau y rhagddor ar eu holau. Wrth edrych dros y rhagddor, gwelent y babi. Yr oeddynt wedi anghofio am dano,