Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ni feiddient redeg allan i'w geisio. Yr oedd y mastiff, a'i safn fawr waedlyd, yn dod yn agosach i'r babi o hyd : ofnai'r plant weld Sam yn dianc, gan adael y babi i'r mastiff mawr. Gwelodd Sam y mastiff cyn hir, ymryddhaodd oddi tan y babi, a cherddodd i gyfarfod y gelyn, gan sefyll rhyngddo a'r plentyn bach. Bu brwydr ffyrnig rhwng y ddau gi ond cyn pen ychydig o funudau yr oedd Sam wedi cydio à'i ddannedd yn asgwrn cefn y mastiff, ac yr oedd hwnnw'n udo am ei fywyd. Synnai'r plant wrth weld y mastiff yn dianc nerth ei draed rhag un mor fain a Sam. Ryw ddydd daeth galar mawr i gartref Sam. Daeth ceidwad helwriaeth y meistr tir heibio a dywedodd fod yn rhaid ei yrru ymaith. Yr oedd y plant yn wylo wrth weld eu cyfaill dewr yn gorfod ymadael, ac ni wyddant hyd heddyw ym mha le y mae