Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TYRUS

O HOLL ddinasoedd y ddaear, nid oes odid un â hanes mor hir ac mor gyffrous a Thyrus. Awn yn ôl cyn belled ag y medrwn i oesoedd bore hanes dynol ryw, cawn Dyrus yn enwog am ei masnach ac am geinder y gwaith a wneid ynddi.

Un o'r penodau prydferthaf yn y Beibl, o ran dull llenyddol, yw y seithfed ar hugain o Eseciel. Ynddi darlunnir Tyrus, brenhines masnach y byd, fel llong. Yr oedd tai Tyrus yn uchel,—ar benrhyn ac ar ynys yr adeiladasid hi, ac yr oedd lle sylfaen yn brin,—yn codi'n hardd fel hwylbrennau llong, ac nid, fel dinasoedd ereill, yn yswatio ar y ddaear megis.

O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, Tyrus, ti a ddywedaist,—'Myfi wyf berffaith o degwch.' Dy derfynau sydd ynghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch. Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir; cymerasant gedrwydd o Libanus i wneyd hwylbren i ti. Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Asuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim. Llian main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti, glas a phorffor o ynysoedd Elisah oedd dy dô. Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr; dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long lywiawdwyr."

Rhydd Eseciel ddarluniad ardderchog o ffeiriau Tyrus. Ceid ynddynt nwyddau pellderoedd Môr y Canoldir,—arian, haearn, alcan, a phlwm. Ceid ynddynt nwyddau'r dwyrain hefyd,—caethion a llestri