Tudalen:Llyfr Del (OME).pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pres; meirch a mulod; cyrn ifori ac ebenus; carbuncl, porffor, gwaith edau a nodwydd, llian meinllin, a chwrel, a gemau; gwenith a mel ac olew a thriagl; gwin Helbon a gwlan gwyn; cassia a'r calamus; wyn, hyrddod, a bychod; per aroglau, pob maen gwerthfawr, ac aur; pethau godidog,— brethynau gleision, gwaith edau a nodwydd, a chistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a'u gwneuthur o gedrwydd. "Llongau Tarsis oedd yn canu am danat; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth ynghanol y moroedd."

Ac yna daw'r desgrifiad o gwymp Tyrus, pan fyddai pob morwr yn wylo, ac yn cwynfan "Pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd ynghanol y môr?"

Daeth traeth Tyrus yn fan brwydr rhwng y galluoedd oedd i lywodraethu'r byd. Ymosododd Alexander Fawr arni, a chymerodd hi trwy wneyd ffordd o'r cyfandir i'w hynys. Wedi hynny codwyd ei chaerau i wrthwynebu'r Saraseniaid; ac y mae ei hanes yn ddyddorol ryfeddol yn hanes Rhyfeloedd y Groes. Erbyn diwedd y ganrif ddiweddaf yr oedd distawrwydd anghyfanedd— dra'n teyrnasu dros yr ynysig greigiog ar yr hon yr eisteddai brenhines urddasol y moroedd gynt. Ond, erbyn hyn, y mae'n gyfanheddol eto. Ceisir plannu coed a gosod pebyll ar y gwastadedd sydd ar ei chyfer. Ond y mae lle Tyrus yn afiach; ac y mae'n debyg yr erys geiriau Eseciel yn wir,— "Dychryn fyddi, ac ni byddi byth mwyach."