3 Digon o rinwedd yn parhau
I'm llwyr iacháu'n dragywydd ;
A digon o raslonrwydd maith
I'm gwneud yn berffaith ddedwydd.
4 Am hyn yn Nuw hyderu wnaf,
Gorffwysaf ar ei eiriau;
Am bethau sydd, am bethau ddaw,
Tu yma a thraw i angau.
—Anhysbys
18 SALM C[1]
M. H.
1 I'R Arglwydd cenwch lafar glod,
A gwnewch ufudd-dod llawen fryd ;
Dowch o flaen Duw â pheraidd dôn,
Trigolion daear fawr i gyd.
2 Gwybyddwch bawb mai'r Iôr sy Dduw,
A'n gwnaeth ni'n fyw fel hyn i fod;
Nid ni ein hun; ei bobl ŷm ni,
A defaid rhi' ei borfa a'i nod.
3 O! ewch i'w byrth â diolch brau,
Yn ei gynteddau molwch Ef;
Bendithiwch enw Duw is rhod,
Rhowch iddo glod trwy lafar lef.
4 Cans da yw'r Arglwydd, Awdur hedd,
Da ei drugaredd a di—lyth;
A'i lân wirionedd in a roes,
O oes i oes a bery byth.
—Edmwnd Prys 1544—1623
19 Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.[2]
M. H.
1 HENFFYCH i enw Iesu gwiw,
Syrthied o'i flaen angylion Duw;
Rhowch iddo'r parch, holl dyrfa'r nef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.