25[1] Canmol Cariad Crist.
88.888.
1 CLOD, clod
I'r Oen a laddwyd cyn fy mod
Y parch a'r mawl i'w enw boed,
Am iddo 'rioed, o'i gariad rhad,
Roi'i serch ar wael syrthiedig ddyn;
Mawr iawn yw rhin ei werthfawr waed.
2 Daw dydd
I'r carcharorion fynd yn rhydd,
O'r holl gadwynau tynion sydd;
Mor felys fydd eu caniad hwy!
Am ddioddefaint addfwyn Oen
Bydd hyfryd sôn, heb ddiwedd mwy.
3 Daw, daw
Yr hyfryd fore, mae gerllaw,
Bydd pawb â'i delyn yn ei law,
Heb ofn na braw, yng nghwmni'r Oen,
Yn canu i dragwyddoldeb maith,
Ar ben y daith, heb friw na phoen.
- Anhysbys
O Grawnsypiau Canaan Robert Jones, Roslan
- Anhysbys
26[2] Teilwng yw'r Oen.
664. 6664.
CYDUNED nef a llawr
I foli'n Harglwydd mawr
Mewn hyfryd hoen;
Clodforwn, tra fo chwyth,
Ei ras a'i hedd di-lyth,
Ac uchel ganwn byth—
"Teilwng yw'r Oen!"
2 Tra dyrchaif saint eu cân
O gylch yr orsedd lân,
Uwch braw a phoen,
O! boed i ninnau'n awr,
Drigolion daear lawr,