Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddyrchafu'r enw mawr:
Teilwng yw'r Oen!"

3 Molianned pawb ynghyd
Am waith ei gariad drud,
Heb dewi â sôn;
Anrhydedd, parch a bri
Fo i'n Gwaredwr ni,
Dros oesoedd maith di-ri':
"Teilwng yw'r Oen!"


James Allen,
efellychiad gan Isaac Clerk


27[1] DUW Abram, molwch Ef
66. 84. D.


1 DUW Abram, Molwch Ef,
Yr hollalluog Dduw,
Yr Hen Ddihenydd, Brenin nef,
Duw, cariad yw.
I'r Iôr, anfeidrol Fod
Boed mawl y nef a'r llawr ;
Ymgrymu wnaf, a rhof y clod
I'r Enw mawr.

2 Duw Abram, molwch Ef;
Ei holl-ddigonol ddawn
A'm cynnal ar fy nhaith i'r nef
Yn ddiogel iawn;
I eiddil fel myfi
Fe'i geilw'i Hun yn Dduw ;
Trwy waed ei Fab ar Galfari
Fe'm ceidw'n fyw.

3 Er bod y cnawd yn wan,
Er gwaethaf grym y byd,
Trwy ras mi ddof i hyfryd fan
Fy nghartref clyd ;
Mi nofia'r dyfnder llaith
A'm trem ar Iesu cu;
Af trwy'r anialwch erchyll maith
I'r Ganaan fry.


  1. Emyn rhif 27, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930