Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4. Holl dyrfa'r nef a gân
Mewn diolch yn gytûn,
I'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân—
Eu mawl sydd un:
O! henffych, Iôr di-lyth;
Clodforaf gyda hwy
Dduw Abram a'm Duw innau byth
Heb dewi mwy.

T. OLIVERS, Cyf. Robert Williams (1804—1855).

28[1] Diolch am Gyfryngwr.
76. 76. D.

1.PA le, pa fodd dechreuaf
Foliannu'r Iesu mawr?
Olrheinio'i ras ni fedraf
Mae'n llenwi nef a llawr:
Anfeidrol ydyw'r Ceidwad,
A'i holl drysorau'n llawn;
Diderfyn yw ei gariad,
Difesur yw ei ddawn.

2.Trugaredd a gwirionedd
Yng Nghrist sy'n awr yn un,
Cyfiawnder a thangnefedd
Ynghyd am gadw dyn:
Am Grist a'i ddioddefiadau—
Rhinweddau marwol glwy'
Y seinir pêr ganiadau
I dragwyddoldeb mwy.

3.O! diolch am Gyfryngwr—
Gwaredwr cryf i'r gwan;
O! am gael ei adnabod—
Fy Mhriod i a'm Rhan;
Fy ngwisgo â'i gyfiawnder
Yn hardd gerbron y Tad;
A derbyn o'i gyflawnder
Wrth deithio'r anial wlad.

Roger Edwards, Yr Wyddgrug

  1. Emyn rhif 28, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930