Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

29[1] Moliant i'r Arglwydd. '.
76. 76. D.

MOLIANNWN Di, O! Arglwydd,
Wrth feddwl am dy waith
Yn llunio bydoedd mawrion
Y greadigaeth faith;
Wrth feddwl am dy allu
Yn cynnal yn eu lle
Drigfannau'r ddaear isod
A phreswylfeydd y ne'.

2 Moliannwn Di, O! Arglwydd,
Wrth feddwl am dy ffyrdd
Yn llywodraethu'n gyson
Dros genedlaethau fyrdd;
Wrth feddwl am ddoethineb
Dy holl arfaethau cudd,
A'u nod i ddwyn cyfiawnder
O hyd i olau dydd.

3 Moliannwn Di, O! Arglwydd,
Wrth feddwl am dy ras
Yn trefnu ffordd i'n gwared
O rwymau pechod cas;
Wrth feddwl am y gwynfyd
Sydd yna ger dy fron
I bawb o'r gwaredigion
'N ôl gado'r ddaear hon.

David Rowlands (Dewi Môn)

30[2] Mawl i'r Arglwydd
76. 76. D.

O! CENWCH fawl i'r Arglwydd,
Y ddaear fawr i gyd,
Ac am ei iechydwriaeth
Moliennwch Ef o hyd;
Mynegwch ei ogoniant—
Tra dyrchafedig yw;
Mae'n ben goruwch y duwiau,
Mae'n Arglwydd dynol-ryw.


  1. Emyn rhif 29, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 30, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930