Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

CYHOEDDIR y casgliad hwn o emynau yn unol â chyfarwyddyd Cymanfaoedd y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, a dymuna'r Cyd-Bwyllgor a'i paratôdd ddatgan eu llawenydd fod galw am gasgliad o'r fath, er galluogi'r ddau Gyfundeb Methodistaidd i ddefnyddio cyfrwng unffurf i "ganu i'r Arglwydd ganiad newydd, a'i foliant Ef yng nghynulleidfa y Saint." Oblegid, fel y gwyddys, plant Diwygiad Efengylaidd y ddeunawfed ganrif ydyw'r naill Gyfundeb a'r llall, ac er iddynt hyd yma gadw ar wahân i'w gilydd, parhaodd yr athrawiaeth efengylaidd a bwysleisiwyd yn y Diwygiad i feithrin bywyd ysbrydol y ddwy Eglwys ar hyd y blynyddoedd, a pharhaodd ysbryd efengylaidd a chenhadol y deffroad hwnnw i nodweddu bywyd crefyddol y naill a'r llall.

Yr un profiad ysbrydol hefyd a fynegir yn emynau'r ddwy Eglwys o'r dechrau, ac oherwydd hynny nid anodd ydoedd cael cyflawnder o ddefnyddiau detholiad newydd i wasanaethu'r ddau Gyfundeb. Yn y casgl- iad hwn erys tua 230 o'r emynau oedd yn gyffredin i gasgliadau blaenorol y ddau enwad. Amlwg yw nad effeithiodd ein gwahaniaethau athrawiaethol nemawr ar fawl ein heglwysi. Defnyddiwyd emynau Williams Pantycelyn yn helaeth ar hyd y blynyddoedd gan y Methodistiaid Wesleaidd yng Nghymru, ac y mae emynau o Gasgliad John a Charles Wesley yn arferedig ymysg y Methodistiaid Calfinaidd, yn enwedig adran Saesneg y Cyfundeb. Credwn na theimla cynulleid- faoedd y naill Eglwys na'r llall fod dim yn y casgliad hwn yn ddieithr iddynt mewn nac athrawiaeth na phrofiad nac ysbryd. Gallwn gydaddoli wrth eu canu, a theimlo eu bod yn fynegiant o brofiad ysbrydol sydd yn ddyfnach ac yn fwy hanfodol i'r bywyd Cristionogol na'r neilltuolion athrawiaethol a'n gwahaniaetha.

Gyda golwg ar gynnwys y casgliad hwn barnai'r Cyd-Bwyllgor na ddylai fod ynddo fwy na thuag 800 o emynau. Barnai hefyd y dylid cynnwys ynddo lawer mwy nag sydd yn ein casgliadau presennol o emynau