Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar agweddau i'r gwirionedd a'r bywyd Cristionogol y rhoddir mwy o amlygrwydd iddynt gan yr Eglwys yn ein dyddiau ni nag a roddid mewn dyddiau blaenorol, megis, gwahanol ffurfiau ar y gwirionedd am Deyrnas Dduw, ac agweddau ymarferol a chymdeithasol y bywyd Cristionogol. Ymhellach, credem fod angen ychwaneg o emynau ar gyfer achlysuron neilltuol. Ond gofalwyd am ddiogelu cyflawnder o emynau'n ymwneuthur yn uniongyrchol â gwahanol agweddau i brofiad crefyddol. Cawsom fod prinder mawr o emynau da ar gyfer achlys- uron arbennig, ond gwnaethom y gorau a allem o dan yr amgylchiadau.

Ymdrechwyd golygu'r hen emynau, hyd y gellid, yng ngoleuni eu ffurfiau cyntefig. Bu llawer o'r cyfnewidiadau a wnaed ynddynt yn y ganrif a aeth heibio yn gyfnewidiadau er gwaeth, ac yn y mannau hynny ni phetrusasom adfer y darlleniadau gwreiddiol. O'r ochr arall, y mae llawer hen gyfnewidiad yn welliant diamheuol, ac yn ein barn ni, camgymeriad fyddai adfer y geiriad gwreiddiol yn y cyfryw leoedd â hynny. Cyfnewidiadau er gwell yw'r rhan fwyaf o'r rhai a wnaeth yr hen olygyddion yn yr iaith; dilynwyd hwynt gennym yn hyn, a diwygiwyd beiau eraill nas canfuant hwy. Nid amcanwyd dileu pob ôl tafodiaith; na cheisio'i guddio, drwy ysgrifennu cefn, er enghraifft, lle mae'r mesur yn galw am ddwy sillaf cefen; ystyriem fod yn rhaid derbyn y dulliau hyn fel ffurfiau goddefol yn iaith yr emyn; a'r un modd am dalfyriadau fel 'd am nid, a'r cyffelyb, ac amryw odlau amherffaith. Eithr ynglyn â chystrawen, ac iawn ddefnyddiad cysyllteiriau a rhagenwau, fe amcanwyd, hyd yr oedd modd, gyrraedd at gywirdeb Cymraeg y Beibl. Ond wrth ddiwygio'r iaith fe ofalwyd am beidio â newid y meddwl, o ran sylwedd o'r hyn lleiaf. Felly, pan gyfarfydder ag ymadrodd yn y casgliad hwn yn cyfleu meddwl gwahanol i'r darlleniad o'r blaen, fe ellir cymryd mai'r gwreiddiol wedi ei adfer yw hwnnw. Nid oes ond ychydig iawn o eithriadau i'r gosodiad yna—rhyw wyth neu ddeg drwy gorff y llyfr, lle credid y byddai i gyfnewidiad yn y dull o gyfleu'r gwirionedd ychwanegu'n fawr at werth y pennill fel cyfrwng addoliad.

Ac yn awr, wrth gyflwyno'r casgliad i gynulleidfaoedd y ddau Gyfundeb, erfyniwn am i'r Hwn sydd "yn