Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfaneddu ym moliant Israel" beri i'w gynnwys fod yn foddion i ddyfnhau ysbryd mawl i'r Goruchaf oddi mewn i'n magwyrydd, a chyfoethogi profiad crefyddol ein heglwysi. Carem hefyd ddatgan ein gobaith y bydd cyhoeddi'r casgliad hwn o emynau ar gyfer y ddau Gyfundeb Methodistaidd yn foddion i gryfhau'r awydd, a goleddir yn barod gan laweroedd, am weled holl adrannau Eglwys Crist yng Nghymru yn cytuno i ddarpar a defnyddio un casgliad, fel y caffo caniadaeth y Cysegr fantais i wasgaru dylanwad mwy dyrchafol nag erioed ar fywyd ysbrydol ein cenedl.