Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYDNABOD.

NI farnwyd yn angenrheidiol gofyn am ganiatâd i gyhoeddi yn y llyfr presennol emynau oedd yn y naill neu'r llall o'r ddau lyfr blaenorol.

Cydnabyddir yn ddiolchgar barodrwydd y personau a ganlyn i roddi caniatâd i gyhoeddi emynau nad oeddynt yn yr hen lyfrau:—

Yr Athro D. MIALL EDWARDS, Aberhonddu.
Y Parch. D. TECWYN EVANS.
Mrs. REES, Abertawy, am waith ei thad, Mr. D. THOMAS (Pabellwyson).
Y Parch. E. KERI EVANS, Caerfyrddin.
Y Parch. J. E. RHYS (Ap Nathan), am waith y Parch. EVAN REES (Dyfed).
Mr. ELISEUS WILLIAMS (Eifion Wyn).
Mr. GEORGE REES, Llundain.
Y Parch. H. ELVET LEWIS (Elfed).
Y Parch. J. E. DAVIES (Rhuddwawr).
Y Parch. J. G. MOELWYN HUGHES (Moelwyn).
Yr Athro JOHN JENKINS (Gwili).
Y Parch. J. J. WILLIAMS, Treforris.
Syr JOHN MORRIS-JONES.
Mrs. REES, Llundain, am waith ei phriod y Parch.
J. MACHRETH REES.
Y Parch. J. O. WILLIAMS (Pedrog), Lerpwl.
Y Parch. JOHN T. JOB, Abergwaun.
Y Parch. J. VERNON LEWIS, Brynaman.
Mrs. MAY HUGHES, Abercegir.
Y Parch. O. LLOYD OWEN, Conwy.
Mr. W. U. WILLIAMS, Aber Pennar, am waith ei
dad y Parch. PETER WILLIAMS (Pedr Hir).
Y Parch. R. H. WATKINS, Ysgoldy, Clwt-y-bont.
Pwyllgor "Llawlyfr Moliant," trwy'r Parch. E. EDMUNDS, Abertawy, am waith Mr. R. M. JONES (Meigant), Caernarfon.
Yr Athro T. GWYNN JONES, Aberystwyth.
Mr. G. O. WILLIAMS, Rhydaman, am waith ei dad y Parch. WATKIN H. WILLIAMS (Watcyn Wyn).