Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Parch. W. NANTLAIS WILLIAMS.
Y Parch. W. O. EVANS.
Y Parch. W. PARI HUWS, Dolgellau.

Datgenir gofid am na allwyd dyfod o hyd i berthyn- neu gymynweinyddwyr y dymunid ysgrifennu atynt i ofyn am eu caniatâd i ddefnyddio emynau rhai awduriaid.

Os troseddwyd yn erbyn deddf hawlfraint mewn unrhyw achos, mewn anwybodaeth y gwnaethpwyd hynny, ac yr ydys yn ymddiheuro.

Dymunir hefyd gydnabod yn ddiolchgar y cynhorthwy parod a charedig a gafwyd, ynglŷn ag awduriaeth emynau a rhestr awduriaid a chyfieithwyr, gan y Parch. H. Elvet Lewis (Elfed), yr Athro J. Jenkins (Gwili), ac amryw eraill; ac yn arbennig gydnabod ein dyled i'r diweddar Brifathro J. H. Davies, a roes rai dyddiau o'i amser, ychydig cyn ei farw, i chwilio i faterion of awduriaeth a darlleniadau yn ei gasgliad dihafal o lyfrau emynau Cymraeg.