Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Am brydferthwch oriau'r dydd,
Am brydferthwch oriau'r nos,
Bryn a dyffryn, blodau, gwŷdd,
Haul a lloer, pob seren dlos,
O! Dduw graslon, dygwn ni
Aberth mawl i'th enw Di.

3 Am hyfrydwch cariad cu
Brawd a chwaer, a mam a thad,
Ffrindiau yma, ffrindiau fry,
Am bob meddwl mwyn a gad,
O! Dduw graslon, dygwn ni
Aberth mawl i'th enw Di.

4 Am bob rhodd i ddynol-ryw
Gennyt o'th drugaredd gref,
Am rasusau dyn a Duw,
Blodau'r byd a blagur nef,
O! Dduw graslon, dygwn ni
Aberth mawl i'th enw Di. 73

F. S. PIERPOINT,
Cyf . John Morris-Jones

William Williams, Pantycelyn

34[1] Mawl i'r Iesu
77. 77. 77.

1 'D OES gyffelyb iddo Ef
Ar y ddaear, yn y nef;
Trech ei allu, trech ei ras
Na dyfnderau calon gas;
A'i ffyddlondeb sydd yn fwy
Nag angheuol ddwyfol glwy'.

2 Caned cenedlaethau'r byd
Am ei enw mawr ynghyd;
Aed i gyrrau pella'r ne',
Aed i'r dwyrain, aed i'r de:
Bloeddied moroedd gyda thir
Ddyfnder iechydwriaeth bur.


  1. Emyn rhif 34, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930