Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

36[1] Salm CV. 1-8.
77. 87. D.

1 EIN Harglwydd ni clodforwch,
Ac ar ei enw gelwch;
Ei wyrthiau Ef â llawen floedd
Ymysg y bobloedd traethwch;
O! dewch a chenwch iddo,
A gorfoleddwch ynddo;
Ymlawenyched pob rhyw ddyn
O galon sy'n ei geisio.

2 Am Dduw a'i nerth gofynnwch,
A gwedd ei ŵyneb ceisiwch,
Y rhyfeddodau i ni a wnaeth,
A'i farnedigaeth cofiwch;
Trwy'r ddaear aeth yn ddiau,
Sôn am ei uniawn farnau,
A cheidw o'i gyfamod go'
I fil o genedlaethau.

Hugh Jones (Huw Myfyr)


37[2] Ti, Dduw, a Folant
84. 84. 8884

1 ENGYL nef o gylch yr orsedd
A'th folant Di.
Rhônt y parch, y clod a'r mawredd
Byth, byth i Ti.
Twysogaethau, awdurdodau,
Fil o filoedd, myrdd myrddiynau,
Seiniant fawl trwy'r uchelderau
Byth, byth i Ti.

2 Patriarchiaid o un galon
A'th folant Di;
Sanctaidd gôr yr Apostolion
A'th folant Di;
Clodus nifer y proffwydi
Ac ardderchog lu'r merthyri,
Ar delynau gwlad goleuni,
A'th folant Di.


  1. Emyn rhif 36, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 37, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930