3. Mawl a'th erys Di yn Seion.
O oes i oes,
Yng nghynlleidfa'r gwaredigion,
O oes i oes:
Mawl i Ti, Dduw Dad tragywydd,
I'r Un Mab, y Sanct Waredydd,
I'r Glân Ysbryd, y Diddanydd,
O oes i oes.
William Rees (Gwilym Hiraethog).
38[1] Molwch Enw'r Iôn.
87. 87. 47
1. MOLWCH Arglwydd nef y nefoedd,
Holl genhedloedd daear las,
Holl dylwythau'r byd a'r bobloedd
Cenwch glod ei ryfedd ras:
Haleliwia,
Molwch, molwch enw'r Iôn.
2. Mawr yw serch ei gariad atom,
Mawr ei ryfedd ras di-lyth,
Ei gyfamod a'i wirionedd
Sydd heb ball yn para byth :
Haleliwia,
Molwch, molwch enw'r Iôn.
Morris Williams (Nicander)
39[2] Hyder a Gorfoledd yn Nuw.
87. 87. 77.
1. YNOT, Arglwydd, gorfoleddwn,
Yn dy gariad llawenhawn,
Cariad erys fyth heb ballu,
A'i ffynhonnau fyth yn llawn;
Frenin nef a daear lawr,
Molwn byth dy enw mawr.
2. Er i Ti reoli bydoedd,
Ym mhob storom lem a ddaw
Cedwi'r weddw dan dy gysgod
A'r amddifad yn dy law: