Frenin nef a daear lawr,
Molwn byth dy enw mawr.
3. Os yw’r bryniau yn dy glorian,
Os dy ddeddf sydd ar y môr,
Ti wrandewi’n nydd y daran
Lef pechadur wrth dy ddôr:
Frenin nef a daear lawr,
molwn byth dy enw mawr.
John James (J.J.) Williams
40[1] Sanctaidd Iôr.
87. 87. D.
1. Glân geriwbiaid a seraffiaid,
Fyrdd o gylch yr orsedd fry,
Mewn olynol seiniau dibaid,
Canant fawl eu Harglwydd cu:
"Llawn yw'r nefoedd o'th ogoniant,
Llawn yw'r ddaear, dir a môr;
Rhodder iti fythol foliant,
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr!"
2. Fyth y nef a chwydda'r moliant;
Uwch yr etyb daear fyth –
"Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd!" meddent,
"Dduw y lluoedd, Nêr di-lyth!"
"Llawn yw'r nefoedd o'th ogoniant,
Llawn yw'r ddaear, dir a môr;
Rhodder iti fythol foliant,
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr!"
3. Gyda'r seraff gôr i fyny,
Gyda'r Eglwys lân i lawr,
Uno wnawn fel hyn i ganu
Anthem clod ein Harglwydd mawr:
"Llawn yw'r nefoedd o'th ogoniant,
Llawn yw'r ddaear, dir a môr;
Rhodder iti fythol foliant,
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr!"
Richard Mant
Cyf Owen Griffith Owen (Alafon)
- ↑ Emyn rhif 40, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930