70[1] Duw yn hoffi Trugarhau.
76. 76. D.
1 PA dduw ymhlith y duwiau
Sydd debyg i'n Duw ni?
Mae'n hoffi maddau'n beiau,
Mae'n hoffi gwrando'n cri;
Nid byth y deil eiddigedd,
Gwell ganddo drugarhau;
Er maint ein hannheilyngdod,
Mae'i gariad E'n parhau.
Y Parch David Saunders, Merthyr
71[2] Duw Rhagluniaeth.
76. 76. D.
1 O! ARGLWYDD Dduw rhagluniaeth,
Ac iechydwriaeth dyn,
Tydi sy'n llywodraethu
Y byd a'r nef dy Hun;
Yn wyneb pob caledi
Y sydd neu eto ddaw,
Dod gadarn gymorth imi
I lechu yn dy law.
2 Er cryfed ydyw'r gwyntoedd
A chedyrn donnau'r môr,
Doethineb ydyw'r Llywydd,
A'i enw'n gadarn Iôr ;
Er gwaethaf dilyw pechod
A llygredd o bob rhyw,
Dihangol byth heb soddi,
Am fod yr arch yn Dduw.
P1 Anadnabyddus
P2 Ann Griffiths (1776-1805)
72[3] Noddfa a Nerth.
77. 77. D.
OLLALLUOG! nodda ni,
Cymorth hawdd ei gael wyt Ti;
Er i'n beiau dy bellhau,
Agos wyt i drugarhau;