Cadw ni o fewn dy law,
Ac nid ofnwn ddim a ddaw :
Nid oes nodded fel yr Iôr,
Gorfoledded tir a môr!
2.Hollalluog! nodda ni,
Trech na gwaethaf dyn wyt Ti ;
Oni fuost inni'n blaid
Ym mhob oes ac ym mhob rhaid?
Cofia'r tywys arnom fu,
Cofia'r enw arnom sy :
Nid oes nodded fel yr Iôr,
Gorfoledded tir a môr !
3.Hollalluog! nodda ni,
Nerth ein bywyd ydwyt Ti;
Cadw gymod yn ein tir,
Cadw gariad at y gwir;
Cadarn fo dy law o'n tu,
Cryfach na banerog lu :
Nid oes nodded fel yr Iôr,
Gorfoledded tir a môr !
—Eliseus Williams (Eifion Wyn)
73[1] Gofal Duw.
8. 33. 6.
1.ENAID gwan, paham yr ofni?
Cariad yw
Meddwl Duw;
Cofia'i holl ddaioni.
2.Pam yr ofni'r cwmwl weithian?
Mae Efe
Yn ei le
Yn rheoli'r cyfan.
3.Os yw'n gwisgo y blodeuyn,
Wywa'n llwyr
Gyda'r hwyr,
Oni chofia'i blentyn?
- ↑ Emyn rhif 73, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930