Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4. Yr Iawn a dalwyd ar y groes
Yw sylfaen f'enaid gwan ;
Wrth bwyso arno ddydd a nos
'R wy'n disgwyl dod i'r lan.

1-3. William Edwards, Bala
4. William Jones, Y Bala

116[1] Cadarn i Iacháu.
M. C.

Christ yn iachau gŵr dall gan El Greco tua 1570

1 OS ydwyf wael fy llun a'm lliw,
Os nad yw 'mriw'n gwellhau,
Af at y Meddyg mawr ei fri,
Sy'n gadarn i iacháu.

2 O'm pen i'm traed 'r wy'n glwyfus oll,
Pob archoll yn dyfnhau:
Neb ond y Meddyg da i mi,
Sy'n gadarn i iacháu.

3 Os wyf heb rym i ddim sy dda,
Dan bwys fy mhla'n llesgáu,
Rhydd Iesu gryfder i'r di-rym;
Mae'n gadarn i'm iacháu.

4 O ddydd i ddydd caf nerth i ddal;
Mae'i ras yn amalhau :
Am hyn, nid anobeithiaf ddim,
Mae'n gadarn i'm iacháu.

Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


117[2] Crist Pen yr Eglwys.
M. C.

1 PAN sycho'r moroedd dyfnion maith,
A syrthio sêr y nen,
Oen Duw, a laddwyd ar y bryn,
Ar Seion fydd yn Ben.

2 Ei enw a bery tra fo haul,
Yn glodfawr byth y bydd;
Ac ni bydd diwedd ar ei glod
I dragwyddoldeb ddydd.


  1. Emyn rhif 116, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 117, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930