3 Bendithion rif y tywod mân,
A gwlith y ddaear lawr,
Sy 'nghadw i'r ffyddloniaid fry
Byth yn eu Harglwydd mawr.
4 Aed enwau'r byd i gyd yn ddim,
Dyrchafer Brenin nef;
Mae pob cyflawnder inni byth
Ynghadw ynddo Ef.
Morgan Rhys
118[1] Cysur yn Enw'r Iesu
M. C.
1 IESU yw'r enw mawr di-goll,
Drwy'r ddaear oll a'r nef;
Angylion, dynion, drwg a da,
A blyga iddo Ef;
2 Yr enw a lonna'r enaid gwan
A gŵyd i'r lan ei lef;
A hwn yw'r enw mawr a dry
Ei uffern ddu yn nef.
3 O! na ddôi holl drigolion byd
Ynghyd at Iesu gwiw :
Y breichiau a'm cofleidiodd i
Gofleidiai ddynol-ryw.
4 Mynegi ei gyfiawnder drud
Fo 'ngwaith mewn byd o boen,
A thraethu rhin ei gariad cu,
Cyhoeddi " Wele'r Oen ! "
5 A dedwydd fyddaf yn y glyn,
Os caf amdano sôn;
Mi waedda'n ŵyneb angau du-
"O! wele, wele'r Oen! "
- Charles Wesley
Cyfieithydd anhysbys
- Charles Wesley
- ↑ Emyn rhif 118, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930