4 Ym mhob rhyw gyfyngderau blin
Caf laeth a gwin gan Iesu;
Mae'n ennill serch fy enaid gwan
O bob rhyw fan i'w garu.
—Evan Jones (Ieuan Gwynedd).
121[1] Gorffennwyd.
M. S.
1 PAN hoeliwyd Iesu ar y pren,
Yr haul uwchben dywyllwyd;
Ond wele! yn y twllwch mawr
Daeth gwawr o'r gair "Gorffennwyd!"
2 Pryd y croeshoeliwyd Iesu cu,
Pyrth uffern ddu a lonnwyd;
Ond trodd y pyrth i siomiant trist
Pan lefodd Crist "Gorffennwyd!"
3 Pryd y dechreuodd Crist dristáu,
Telynau'r nef ostegwyd;
Ond dyblodd cân y drydedd nef
Pan lefodd Ef "Gorffennwyd!"
4 Holl lafur Crist trwy boenus daith
A'i galed waith ddibennwyd,
Pan roes, â'i olaf anadl gref,
Yr uchel lef "Gorffennwyd!
5 Mae Duw yn maddau a glanhau
Yn angau'r Oen a laddwyd;
A dyma waith efengyl gref—
Atseinio'r llef "Gorffennwyd!"
David Jones, Treborth
122[2] Digonolrwydd Aberth Crist.
M. S.
1 NA foed i'm henaid euog trist
Ond haeddiant Crist yn gyfran;
Ei aberth Ef, llawn ddigon yw
I feddwl Duw ei Hunan.