2 Os daw cydwybod lawn o dân,
Cyfiawnder glân, a'r gyfraith,
I'm gofyn mwy, fy ateb llawn
Yw'r Iawn a dalwyd unwaith.
3 Pwy draetha'n llawn ddyfnderoedd gwerth
Yr aberth a'i fendithion?
I ddyn caed heddwch nef yn ôl,
A Duw'n dragwyddol fodlon.
4 Rhyfeddir byth y geni'n dlawd,
Y byw dan wawd a chroesau,
Y dioddef cosb heb unrhyw fai,
A'r ufuddhau heb rwymau.
5 Yr uchel gân fydd "Iddo Ef! "
Trwy nef y nef yn seinio:
Yr ing, yr Iawn, a'r gwaedlyd chwys,
A felys gofir yno.
- —Robert Owen (Eyron Gwyllt Walia)
123[1] Enw Grasol Iesu.
M. S.
1 MAE enw Crist i bawb o'r saint
Fel ennaint tywalltedig,
Ac yn adfywiol iawn ei rin
I'r enaid blin lluddedig.
2 Pan fyddo f'enaid yn y llwch,
A thwllwch fel y fagddu,
Mae dawn a nerth i'm dwyn yn ôl
Yn enw grasol Iesu.
3 Gobeithiwch ynddo, bawb o'r saint,
Er cymaint yw eich gofid,
Gan wybod bod eich Priod gwiw
Yn ffyddlon i'w addewid.
- —James Hughes (Iago Trichrug)
- ↑ Emyn rhif 123, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930