124[1] Crist yn bob peth.
M. S.
SANCTEIDDRWYDD im yw'r Oen di-nam,
'Nghyfiawnder, a'm doethineb
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
Fy Nuw i dragwyddoldeb.
2 Ces weld mai Ef yw 'Mrenin da,
Fy Mhroffwyd a'm Hoffeiriad,
Fy Nerth a'm Trysor mawr a'm Tŵr,
F' Eiriolwr fry a'm Ceidwad.
3 Ar ochor f'enaid tlawd y bydd
Ar fore dydd marwolaeth;
Yn wyneb angau mi wnaf ble,
Gan weiddi "Iechydwriaeth."
4 O fewn i'r wlad tu draw i'r bedd
Caf weled gwedd ei ŵyneb:
Ac yn ei fynwes llechu caf
Hyd eithaf tragwyddoldeb.
William Williams, Pantycelyn
125[2] Archoffeiriad Trugarog.
M. S.
1 COFFAWN yn llawen gyda pharch
Am ras ein Harchoffeiriad;
Un yw o galon dyner iawn,
A mynwes lawn o gariad.
2 Ni ddiffydd lin fo'n mygu byth,
Yn fflam fe'i chwyth yn hytrach;
Y gorsen ysig byth nis tyr;
Y gwan, fe'i gyr yn gryfach.
3 Am hynny, yn ei nerth a'i nawdd
Rhown ninnau'n hawdd ein hyder;
Cawn waredigaeth ganddo Fo
Mewn amser o gyfyngder.
Isaac Watts, Cyf. Dafydd Jones o Gaeo