126[1] Brawd yn Brynwr.
M. S.
1 DUW ymddangosodd yn y cnawd,
Fe gafwyd Brawd yn Brynwr;
Ni chollir neb, er gwaeled fo,
A gredo i'r Gwaredwr.
2 Yr aberth mawr fu ar y groes,
A'r Iawn a roes yr Iesu,
Yw f'unig obaith ym mhob man
Daw f'enaid gwan i fyny.
John Hughes, Pontrobert
127[2] Newyddion Braf.
M. H.
1 NEWYDDION braf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddent gael eu dwyn ar go'—
Mae'r Iesu wedi cario'r dydd,
Caiff carcharorion fynd yn rhydd.
2 Mae Iesu Grist o'n hochor ni,
Fe gollodd Ef ei waed yn lli;
Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach
I'r ochor draw 'mhen gronyn bach.
3 Wel, f'enaid, weithian cod dy ben,
Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen;
Mae'n holl elynion ni yn awr
Mewn cadwyn gan y Brenin mawr.
John Dafydd, Caio
128[3] Angau'r Groes.
M. H.
1 Y MAE hapusrwydd pawb o'r byd
Yn gorffwys yn dy angau drud;
Hyfrytaf waith angylion fry
Yw canu am fynydd Calfari.