Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

150[1] Iesu y tu mewn i'r Llen.
664. 6664.

1 FY Iesu yw fy Nuw,
Fy Mrawd a'm Prynwr yw,
Ffyddlonaf gwir;
Arwain fy enaid wnaeth
O'r gwledydd tywyll caeth,
I wlad o fêl a llaeth,
Paradwys bur.

2 Efe a aeth o'm blaen,
Trwy ddyfnder dŵr a thân,
I'r hyfryd wlad;
Mae'n eiriol yno'n awr
O flaen yr orsedd fawr,
Yn maddau bach a mawr
O'm beiau'n rhad.

3 Mae lluoedd maith y
Yn plygu iddo Ef,
Anfeidrol Dduw ;
Canu telynau clir nef
Mewn gŵyl dragwyddol bur,
Am waredigaeth wir
I ddynol-ryw.

William Williams, Pantycelyn


151[2] Teg wawriodd arnom Ddydd.
66. 46. 88. 76.

1 TEG wawriodd arnom ddydd
A welwyd gynt trwy ffydd
Gan rai sy'n awr
O'u cystudd mawr yn rhydd;
Ac os oedd dyled arnynt hwy
Foliannu'r Oen a'i farwol glwy',
Mae'n dyled ni, genhedloedd,
Fil miloedd foli mwy.

2 Trwy Grist a'i werthfawr waed
Y daeth maddeuant rhad:

  1. Emyn rhif 150, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif , Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930