Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I ddynol-ryw
Iachawdwr gwiw a gad;
Ei fywyd pur a'i angau loes
A'i ddioddefaint ar y groes
A ddygo fy serchiadau
Tra pery dyddiau f'oes.

3 Yn nyfnder pob rhyw loes,
A gorthrymderau f'oes,
Fy noddfa a'm nerth
Yw aberth mawr y groes:
Rhinweddol haeddiant marwol glwy'
Yw 'nghysur yn y byd tra fwy',
A'm hunig ddigonoldeb
I dragwyddoldeb mwy.

1 Evan Prichard (Ieuan Lleyn)
2-3 Siarl Mark


152[1] Iesu dyrchafedig.
665. 665. 786.

1 IESU dyrchafedig,
Geidwad bendigedig,
Mawl a'th erys Di;
Arglwydd llawn tosturi,
Edrych ar ein gweddi,
Iesu, cymorth ni;
Trugarha, O! Arglwydd da,
Rho faddeuant, rho dangnefedd,
Dwg ni i'th orfoledd.

2 Ymaith, ffôl amheuon,
Heriaf bob treialon,
Iesu yw fy rhan;
Canaf ym mhob tywydd,
Os caf wenau f'Arglwydd,
Gobaith f'enaid gwan;
O! fy Nuw, fy ngweddi clyw,
Os cyrhaeddaf nef y nefoedd
Molaf Di'n oes oesoedd.

William Ambrose (Emrys)


  1. ↑ Emyn rhif 152, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930